Neidio i'r prif gynnwy

Time4me@cwmtafepp- Rhaglen Addysg i Gleifion

Dull newydd o hunanreoli i bobl sy'n byw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu i bobl sy'n ofalwyr. Mae Time4me @Cwmtaf EPP Cymru yn Rhaglen Hunanreoli gan y GIG i bobl sy'n byw gydag unrhyw gyflwr iechyd tymor hir. Mae'n helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd trwy ddysgu gwahanol sgiliau i reoli eu cyflwr yn well o ddydd i ddydd.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth

 

Mae ar gael i grwpiau o 8-16 o bobl sydd dros 18 oed gydag amrywiaeth o wahanol gyflyrau. Mae chwe sesiwn wythnosol o 2 awr a hanner yr wythnos. Bydd yn gwrs strwythuredig dan arweiniad dau diwtor hyfforddedig sydd â phrofiad o fyw gyda chyflwr tymor hir, neu o ofalu am rywun sydd â chyflwr tymor hir.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gellir atgyfeirio unrhyw un dros 18 oed neu gallwch chi ddod atom ni eich hun.

Beth i'w Ddisgwyl

Mae pob sesiwn yn edrych ar ffyrdd i helpu i reoli effeithiau cyflwr tymor hir megis:

  • Rheoli symptomau fel poen a blinder
  • Delio â dicter, ofn a rhwystredigaeth
  • Ymdopi â straen, iselder ysbryd a hunanddelwedd isel
  • Bwyta'n iach
  • Dysgu technegau ymlacio a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • Gwell cyfathrebu gyda theulu, ffrindiau a gweithwyr iechyd proffesiynol
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae mwyafrif y tiwtoriaid ar y cwrs yn wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i gyflwyno'r cwrs. Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau addas mewn cymunedau lleol ac yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, oherwydd Covid 19, rydym yn cynnig y cyrsiau hyn trwy Microsoft Teams ar lein. Byddwn yn eich helpu i ddefnyddio'r platfform hwn.


Mae pwyslais cryf ar osod nodau unigol, realistig a chyraeddadwy ymhlith mynychwyr y cwrs sy'n cael eu monitro bob wythnos. Mae sgiliau craidd fel datrys problemau, gwneud penderfyniadau, bod yn ddyfeisgar a newidiadau ymddygiad hefyd yn cael eu datblygu trwy gydol y chwe wythnos.


Dydy'r cyrsiau ddim yn darparu gwybodaeth na thriniaeth iechyd, nac yn edrych ar anghenion clinigol. Y nod yw rhoi hyder i gyfranogwyr gymryd cyfrifoldeb dros eu gofal eu hunain, wrth eu hannog hefyd i weithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol a gofal cymdeithasol.


Mae pobl sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hunanreoli ar gyfer clefyd cronig wedi nodi ei bod wedi eu helpu o ran:

  • Teimlo'n hyderus a chymryd rheolaeth well dros eu bywydau.
  • Rheoli eu cyflwr a'u triniaeth yn fwy effeithiol, gan weithio mewn partneriaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
  • Datblygu perthnasoedd effeithiol gyda'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.
  • Bod yn realistig am effaith eu cyflwr arnyn nhw eu hunain a'u teulu.
  • Defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fyw bywyd llawn.
  • Cymryd eu meddyginiaeth yn effeithiol trwy roi gwybod am broblemau pan fyddan nhw'n codi.

Mae cyrsiau EPPtime4me Cymru wedi'u cynllunio i redeg ochr yn ochr â Rhaglenni Triniaeth ac Addysg i Gleifion ar gyfer Cyflyrau Penodol a ddarperir gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Mae'r cwrs yn helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i reoli eu cyflwr yn well o ddydd i ddydd, gan eu gwneud yn llai dibynnol ar Raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae adolygiad o holiaduron cyfranogwyr wedi tynnu sylw at rai o'r buddion y gall cyrsiau EPP eu cynnig i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae'r gymhariaeth o fesurau 'cyn ac ar ôl' y cyrsiau yn dangos 4-6 mis ar ôl cwblhau'r cwrs:

  • Gostyngodd ymgynghoriadau meddygon teulu gan 7%
  • Gostyngodd ymweliadau cleifion allanol gan 10%
  • Gostyngodd ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys gan 16%
  • Cynyddodd ymweliadau i fferyllfeydd gan 18%

Y cyrsiau sydd ar gael yw:

  • Iechyd a Lles - Straen / Pryder / Hwyliau Isel - gan gynnwys COVID Hir
  • Poen Gronig - Pob agwedd ar Gyflyrau Poen Gronig
  • Cyn-ddiabetes Math 2
  • Gofal traed i bobl â Diabetes Math 1 neu 2 (sesiwn untro am 1 awr a 45 munud)

Os ydych chi'n adnabod claf a fyddai'n elwa o fynychu un o'n cyrsiau Hunanreoli, rhowch y wybodaeth iddo a'i annog i gysylltu â thîm EPP Cymru lleol.

Manylion cyswllt
e-bost: ctt_time4me@wales.nhs.uk
Ffôn: 01685351451

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.eppwales.org

 

Dilynwch ni: