I wireddu'r uchelgais o wella canlyniadau iechyd sy'n canolbwyntio ar unigolion ac i ddefnyddio ein hadnoddau’n fwy effeithiol, mae angen i ni holi pobl ynglŷn â’u profiadau iechyd a'u canlyniadau yn sgil ein triniaethau a'n gofal. Gallwn ni wneud hyn trwy greu a defnyddio system â chymorth data, sy'n ceisio casglu a darparu gwybodaeth amserol i ddinasyddion, i dimau clinigol ac i'n sefydliad, er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd sy'n arwain at y canlyniadau hynny. Sicrhau canlyniadau sydd bwysicaf i gleifion yw gwir werth iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn golygu y bydd cleifion yn cael eu holi ynglŷn â sut maen nhw’n teimlo a sut mae eu cyflyrau’n effeithio ar eu bywyd, cyn iddyn nhw ddod i'r ysbyty am apwyntiad neu driniaeth ac ar ôl hynny. Mae hyn yn ein helpu ni i fesur a monitro'r newidiadau sy'n digwydd, a p’un a ydy iechyd cleifion a'r effaith ar eu bywyd wedi gwella ai peidio oherwydd y gofal gawson nhw.
Mae hyn yn ein helpu ni i nodi'r gofal a'r driniaeth sy'n effeithio’n gadarnhaol ar gleifion ac ar eu cyflwr iechyd. Mae’n gallu ein helpu ni hefyd i wybod ble mae profiadau o ofal isel ei werth, sef gofal sydd ddim yn effeithio’n gadarnhaol ar gleifion nac ar eu cyflwr. Yn ogystal â hynny, byddwn ni’n holi cleifion ynglŷn â’u profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau iechyd. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cyrraedd cleifion, mae'n bwysig iawn bod gwybodaeth gyswllt, rhif ffôn symudol, e-bost a chyfeiriad cyfredol gyda ni. Dylai’r rhain gael eu gwirio yn ystod pob apwyntiad a/neu driniaeth.
Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ddull sy'n canolbwyntio ar unigolion, ac mae'n ein galluogi ni i wybod beth sydd bwysicaf i gleifion a gweithredu ar hyn. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu timau clinigol i weithio gyda chleifion er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â’u gofal a'u canlyniadau iechyd. Yn ogystal â hynny, bydd yn helpu CTM i ddarparu gofal uchel ei werth ac i ddefnyddio ein hadnoddau’n effeithlon er mwyn darparu'r gofal sy’n sicrhau'r canlyniadau gorau i'n dinasyddion.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i ni gydweithio a rhannu'r profiadau hyn o ofal iechyd i gymryd y camau pwysig hyn er mwyn gwella iechyd ein cymunedau.
PROM
Acronym Saesneg yw PROM, sef mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion. Diben PROM yw casglu gwybodaeth o safbwynt y cleifion eu hunain drwy holiadur. Trwy’r dull hwn, bydd cleifion yn cael cyfle i asesu sut maen nhw'n teimlo cyn ac ar ôl triniaeth. Yna, bydd hyn yn rhoi statws iechyd cleifion, gan y cleifion eu hunain, i'r staff clinigol yn uniongyrchol.
Mae'r broses hon yn gallu helpu cleifion a’r staff clinigol i fesur effaith triniaeth wrth i gleifion gael triniaeth am gyflwr iechyd. Mae'n galluogi’r cleifion a'r clinigwyr i wneud penderfyniadau gwell gyda'i gilydd ac mae'n hwyluso pwynt cyswllt mwy personol.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n treialu holiaduron PROM yn Nhîm Methiant y Galon yn Ysbyty Tywysoges Cymru ar gyfer cleifion mewnol, ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar gyfer cleifion allanol. Darparwr gwasanaeth y prosiect peilot hwn yw DrDoctor.
PREM
Acronym Saesneg yw PREM ar gyfer mesur profiadau a adroddir gan gleifion. Yn debyg iawn i PROM, ei ddiben yw casglu gwybodaeth gan gleifion trwy holiadur. Fodd bynnag, yn lle asesu sut mae claf yn teimlo ar adeg benodol yn ystod ei ofal iechyd, mae PREM yn mesur profiad claf wrth iddo gael ei ofal.
Bydd y PREM yn helpu i gasglu gwybodaeth ynglŷn â phrofiad cleifion yn y system gofal iechyd a p’un a ydy anghenion y cleifion yn cael eu diwallu ai peidio. Yn ogystal â hynny, mae’n dangos meysydd o ragoriaeth a meysydd o bryder er mwyn i ni allu ymchwilio ymhellach iddynt. Bydd yn rhoi cyfle hefyd i feincnodi a chymharu profiad cleifion ar draws BIP CTM.
Mae ein holiaduron PREM yn seiliedig ar gyfres o arolygon craidd Cymru gyfan, sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'n gwerthoedd fel Bwrdd Iechyd, sef ein bod ni'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella. Rydyn ni’n trin pawb â pharch. Rydyn ni i gyd yn cydweithio fel un tîm.
Cafodd proses gaffael Cymru gyfan ei chynnal er mwyn caffael system casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth i'w gweithredu gyda GIG Cymru. Ar ôl ymarfer tendro llwyddiannus, cafodd y contract ei ddyfarnu i Civica. Mae’r gwaith o gyflwyno’r system wedi dechrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r broses o bennu gofynion y Bwrdd Iechyd o system Civica yn mynd rhagddi yn Nhîm Profiad y Cleifion a thrwy Grŵp Adborth y Defnyddwyr Gwasanaeth. Mae’r Grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o amryw grwpiau lleoliad integredig a gwasanaethau yn y Bwrdd Iechyd.
Am fwy o fanylion ynghylch hyn, anfonwch e-bost i:-
CTM.Civica.Feedback@wales.nhs.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Taflen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
Negeseuon allweddol i gleifion cyn ac ar ôl clinig