Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau Gwasanaeth Gweithredu Diwydiannol

Yn dilyn cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol arfaethedig gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) ddydd Iau 15 Rhagfyr a dydd Mawrth 20 Rhagfyr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn datblygu cynlluniau i gynnal diogelwch a gofal cleifion lle bo modd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn un o’r Byrddau Iechyd yng Nghymru lle mae aelodau’r RCN wedi pleidleisio o blaid streicio. Mae ein Bwrdd Iechyd yn cydnabod cryfder y teimlad y tu ôl i'r bleidlais gadarnhaol aruthrol a bydd yn gweithio i sicrhau bod diogelwch ein cleifion a'n cydweithwyr yn parhau i fod yn hollbwysig.

Mae cynllunio ar y gweill i reoli'r effaith weithredol, cefnogi cydweithwyr, a gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gellir cynnal gwasanaethau hanfodol yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Y flaenoriaeth ar gyfer y cynlluniau hyn fydd sicrhau diogelwch cleifion a pharhad gofal, cynnal darpariaeth gwasanaeth hanfodol, a diogelwch gweithwyr nad ydynt yn streicio, defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a chontractwyr.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â’n cydweithwyr Undebau Llafur sy’n chwarae rhan allweddol fel rhan o’n proses o gynllunio a gwneud penderfyniadau.

Bydd yr holl fanylion am ein gwasanaethau a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd yn yr adran benodol ar y wefan hon.

Diolch am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Gwybodaeth Diweddaraf 

 

 

Dilynwch ni: