Neidio i'r prif gynnwy

Y Norofeirws

Mae sawl enw gan y norofeirws, fel salwch y gaeaf, y byg chwydu neu hyd yn oed y dolur rhydd a chwydu. Ond beth bynnag yw ei enw, er nad yw’n ddifrifol fel arfer, mae’n salwch amhleserus sy’n gallu creu problemau difrifol i’n hysbytai bob blwyddyn.

Dyma’r byg stumog mwyaf cyffredin yn y DU ac mae’n effeithio ar bobl o bob oedran. Does dim modd penodol o’i wella, felly os byddwch chi’n gadael iddo barhau’n naturiol, dylai gymryd dim mwy na chwpl o ddiwrnodau. Fel arfer, bydd y cyfnod heintus yn para rhwng 12 a 48 awr.

Beth sydd ei angen gennych chi: Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag un o’n hysbytai, peidiwch â dod os ydych chi wedi cael y dolur rhydd neu wedi bod yn chwydu yn y 72 awr ddiwethaf. Byddwch chi’n rhoi pobl eraill sy’n fwy bregus na chi, yn ogystal â’r staff, dan risg.

Mae rhagor o wybodaeth am y Norofeirws yma:bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/eich-canllaw-i-gadw-norofeirws-draw/

Dilynwch ni: