Cyn cysylltu â'ch meddyg teulu am apwyntiad, darllenwch y cyngor yn y llyfryn hwn gan wasanaethau eraill allai eich helpu.
Cysylltu â'ch meddyg teulu
- Ffoniwch eich meddyg teulu yn ystod y diwrnod gwaith (8am-6.30pm)
- Defnyddiwch eConsult ar-lein (os ydy hyn ar gael)
- Y tu hwnt i’r oriau agor, cysylltwch â GIG 111 os oes angen cyngor neu driniaeth arnoch (rhwng 6.30pm a 8am yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau)
Siarad â derbynnydd
- Bydd derbynyddion neu lywyddion gofal, sydd wedi cael hyfforddiant arbennig, yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn deall eich problem
- Bydd yr wybodaeth hon yn eu helpu i benderfynu pwy sydd orau i ddiwallu eich anghenion
- Bydd popeth rydych chi'n ei ddweud yn hollol gyfrinachol
Eich ymgynghoriad
- Erbyn hyn, mae apwyntiadau gyda meddygon teulu ac apwyntiadau eraill yn cael eu cynnal dros y ffôn a thros fideo, yn ogystal ag wyneb yn wyneb
- Sut bynnag byddwch chi'n siarad â ni, byddwch chi'n dal i gael yr un safon uchel o gymorth gan y GIG
- Os bydd eich meddyg teulu o’r farn fod angen i chi weld rhywun wyneb yn wyneb, byddwch chi'n cael apwyntiad
Am fwy o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch meddygfa leol, ewch i bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/eich-tim-gofal-sylfaenol-lleol/syrjeris-meddygon-teulu
Beth i'w ddisgwyl gan eich meddygfa?
Mae’r poster gyda’r holl wybodaeth i’w weld yma
Os oes poen ddifrifol gyda chi yn y frest, os ydych chi ar fin llewygu, os oes anawsterau anadlu difrifol gyda chi, os ydych chi’n teimlo’n wan ar un ochr neu’n siarad yn aneglur neu’n gwaedu’n ddifrifol, peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, ffoniwch 999 yn syth.