Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i wasanaethau oherwydd COVID-19 – Gwasanaethau Rhewmatoleg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi newidiadau ar waith i’n Gwasanaethau Rhewmatoleg. Lle mae apwyntiadau wedi cael eu canslo, mae ymgynghorwyr yn ceisio cynnal clinigau dros y ffôn er na allan nhw addo gwneud hynny, ac felly mae’n bosibl y bydd cleifion yn derbyn llythyr yn lle. Mae rhai clinigau brys yn parhau i redeg yn Ysbyty Dewi Sant. Yn eu plith mae’r clinigau Arthritis Cynnar a’r Clinigau Monitro ar gyfer cleifion sy’n cymryd cyffuriau atal imiwnedd (ac sydd ddim yn gwarchod eu hunain gartref).

Os ydych yn mynd i drafferth gyda'ch clefyd rhiwmatig, cysylltwch â ni drwy'r llinell gymorth ar 01443 443443 Est 73838.  Ar gyfer cleifion o ardal Ysbyty Tywysoges Cymru, ffoniwch 01639 862104 (Ysbyty Castell-nedd Port Talbot).

Os oes symptomau COVID-19 gyda chi, dylech chi ffonio 111 neu ddilyn y cyngor ar wefan y GIG.

Dilynwch ni: