Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau Profi COVID-19

Gwneud cais i gael prawf am y Coronafeirws (COVID-19)

Mae gan bawb yng Nghymru (gan gynnwys plant) yr hawl i gael prawf am y Coronafeirws os oes unrhyw un o’r symptomau o COVID-19 gyda nhw.

Gallwch drefnu prawf mewn canolfannau profi lleol a chanolfannau profi symudol. Mae rhestr o ganolfannau profi wedi ei diweddaru ar gael isod.

Gall unrhyw un sydd eisiau archebu prawf gysylltu 119 neu drefni prawf Ar-lein.

Gallwch hefyd wneud cais am becyn profi personol i’w wneud gartref. Gall pobl gyda nam ar eu clyw neu anawsterau lleferydd ffonio 18001 119. Gallwch chi ofyn am becyn prawf i chi eich hun neu i unrhyw un arall sy’n byw gyda chi ac sydd gyda symptomau.

I gael prawf, mae’n rhaid bod symptomau COVID-19 gyda chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

��Twymyn (37.8° C neu’n uwch)

��Peswch newydd neu barhaus

��Colli synnwyr blasu neu arogleuo, neu newid yn y synhwyrau hynny

Fe'ch hysbysir o ganlyniad eich prawf trwy neges destun. Peidiwch â cheisio cysylltu â'r Bwrdd Iechyd i gael eich canlyniad, gan nad ydym yn cadw'r wybodaeth hon.

Mae modd gweld y cwestiynau cyffredin diweddaraf ynglŷn â phrofion COVID-19 .yma.

Dilynwch ni: