Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin i blant/pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sydd eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl

Mae pandemig y Coronafeirws yn golygu bod gwasanaethau CAMHS wedi gorfod newid sut maen nhw'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod modd rhoi cymorth yn ddiogel.

Newidiadau allweddol y gallech chi eu gweld wrth ddefnyddio gwasanaethau CAMHS:

  • Mae atgyfeiriadau newydd yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.
  • Bydd mwy o apwyntiadau ac asesiadau’n cael eu cynnal ar-lein neu dros y ffôn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
  • Os byddwch chi’n dod i apwyntiad yn un o’n safleoedd, bydd gofyn i chi wisgo masg, yn ogystal â golchi neu ddiheintio eich dwylo a chadw 2 fetr rhag yr unigolyn sydd agosaf atoch. Sylwch y bydd apwyntiadau’n cael eu cynnal yn un o’n safleoedd dim ond os bydd angen clinigol. Does dim modd darparu ymyrraeth therapiwtig o bell.
  • Mae'r pandemig wedi arwain at rywfaint o oedi o ran mynediad a chyfathrebu, ac efallai y bydd rhaid aros yn hirach am asesiad a chymorth. Mae’n bosib y bydd hi’n cymryd mwy o amser i ni ymateb i rai o'ch ymholiadau hefyd.
  • Os bydd eich asesiad yn pennu bod angen cymorth brys arnoch, byddwch chi’n cael eich gweld o fewn 24 awr.
  • Os bydd angen i chi siarad ag aelod o'ch tîm CAMHS lleol, gallwch chi ffonio eich canolfan blant leol am wybodaeth a chyngor.

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, sy’n gwneud i lawer ohonom ni deimlo dan straen a’n bod wedi ein gorlethu. Mae'n adeg bryderus i lawer o rieni a gofalwyr sy'n poeni am effaith y pandemig ar les emosiynol eu plant. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwn ni helpu plant a phobl ifanc i roi'r cyfle gorau iddyn nhw gadw’n iach yn feddyliol yn ystod yr adeg anodd hon. Bydd yr wybodaeth isod yn eich helpu i roi cymorth i'ch plentyn ac i wybod sut i gael cymorth.

Os ydych chi’n poeni’n fawr am iechyd meddwl eich plentyn ac yn teimlo bod angen cymorth arno ar unwaith, byddem ni’n argymell y dylech chi geisio gweld eich meddyg teulu am apwyntiad brys. Bydd eich meddyg teulu yn gallu cysylltu â CAMHS i ofyn am asesiad brys os bydd angen. Os bydd eich meddygfa ar gau, gallwch chi gysylltu â'r meddyg teulu y tu allan i oriau. Os bydd eich plentyn mewn perygl o niweidio ei hun, neu os bydd mewn argyfwng oherwydd ei iechyd meddwl, gallwch chi hefyd ffonio 999 neu fynd i'r adran argyfwng yn eich ysbyty lleol.

Unwaith y bydd eich plentyn yn ddigon ffit yn feddygol i gael ei ryddhau, bydd yr adran argyfwng yn trefnu atgyfeiriad at CAMHS. Bydd yr asesiad risg iechyd meddwl yn cael ei gwblhau yn yr ysbyty neu yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

Mae ein gwasanaeth CAMHS wedi parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc ers dechrau pandemig y Coronafeirws. Rydyn ni wedi gorfod newid y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaeth er mwyn cydymffurfio â rheolau'r Llywodraeth. Rydyn ni’n dechrau rhoi cymorth llawer o'r bobl ifanc rydyn ni’n eu gweld naill ai drwy ymgynghoriadau ar-lein neu dros y ffôn. Rydyn ni wedi gweld pobl wyneb yn wyneb lle mae angen clinigol i wneud hynny, ond rydyn ni wedi parhau i gadw at y canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol.

Rydyn ni wedi cynnal nifer o asesiadau risg ym mhob un o'n clinigau ac wedi dechrau cyflwyno rhagor o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb pan nad yw'n bosib darparu ymyriad therapiwtig o bell. Fodd bynnag, mae angen i'r GIG gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol o hyd, a rhaid cynnal pob ymgynghoriad ledled y wlad o bell, oni bai bod angen clinigol i gynnal hwn wyneb yn wyneb.

Mae hyn yn golygu allwn ni ddim cynnal cymaint o bobl ag o’r blaen yn y clinigau, ac o ganlyniad, mae angen i ni flaenoriaethu pa bobl ifanc rydyn ni’n eu gweld yn bersonol. Mae hyn yn gallu achosi oedi does dim modd ei osgoi ac amseroedd aros hirach. Gofynnwn i unrhyw un sy'n cysylltu â'n gwasanaethau fod yn ystyriol o'n staff. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino i weld cymaint o blant a phobl ifanc â phosib ac mae angen iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd.

I wneud yn siŵr ein bod yn cadw at ganllawiau'r llywodraeth, mae’n debygol y byddwch chi’n gweld ambell newid pan fyddwch chi’n dod i'n gweld ni y tro nesaf. Dyma rai negeseuon allweddol:

  • PEIDIWCH â mynd i Ganolfan Plant oni bai eich bod wedi cael cyngor penodol i ddod. Byddwch chi wedi cael gwybod am drefniadau penodol gan eich tîm CAMHS lleol neu yn eich llythyr apwyntiad. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â'ch tîm lleol am gymorth.
  • PEIDIWCH â dod i’ch apwyntiad os ydych chi’n sâl a/neu os oes symptomau’r Coronafeirws gyda chi. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â symptomau’r Coronafeirws a beth i'w wneud i’w gweld ar: www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/symptoms/.
  • Oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau ffôn rydyn ni’n eu cael, mae’n bosib y bydd hi’n cymryd mwy o amser i ni ddod yn ôl atoch. Os ydy eich ymholiad yn un brys, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n pwysleisio hynny yn eich neges, a byddwch yn amyneddgar gyda’n staff. Maen nhw’n gwneud popeth posib.
  • Os byddwn ni o’r farn fod angen i ni weld eich plentyn wyneb yn wyneb, bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi, a byddwn ni’n esbonio’r mesurau sydd eu hangen i'ch cadw chi a'n clinigwyr yn ddiogel.
  • Os nad ydych chi’n siŵr beth yw eich cynllun gofal, ffoniwch y gwasanaeth.
  • Fyddwn ni ddim yn mesur pethau fel eich taldra, pwysau, pwysedd gwaed, pwls a thymheredd oni bai bod hynny’n gwbl hanfodol. Trafodwch gyda'r clinigwr os bydd angen gwneud hyn.
  • Peidiwch â mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys oni bai bod angen sylw meddygol brys arnoch.
  • Gallwch chi fod yn dawel eich meddwl fod eich clinigwr wedi datgan ei fod yn ddigon iach i fod yn y gwaith, ac y bydd yn cadw pellter cymdeithasol (sef tua 2 fetr) ac yn golchi ei ddwylo’n rheolaidd.

Os byddwn ni wedi cytuno bod angen eich gweld chi wyneb yn wyneb, dyma rai o'r pethau allai fod yn wahanol:

  • Dilyn trefniadau newydd wrth fynd i'r clinig. Er enghraifft, ffonio'r clinig wrth gyrraedd a chyn mynd i mewn i'r adeilad. Byddwn ni’n cadarnhau’r trefniadau lleol cyn eich apwyntiad.
  • Defnyddio diheintydd dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
  • Cadw pellter cymdeithasol. Bydd mwy o arwyddion yn y clinig yn esbonio'r broses, gan gynnwys y posibilrwydd o systemau unffordd.
  • Eistedd ymhellach ar wahân yn yr ystafelloedd clinig.
  • Efallai y bydd rhai aelodau o’r staff yn gwisgo masgiau.

Dywedwch ddiolch wrtho am rannu gyda chi beth sy'n digwydd, a cheisiwch bwysleisio fod ei onestrwydd a’i allu i fod yn agored yn beth cadarnhaol iawn, a chydnabod sut mae'n teimlo.

Rhowch wybod iddo eich bod chi'n ei garu, eich bod chi gerllaw i'w helpu a bod modd iddo siarad â chi. Rydych chi'n gwrando ac rydych chi’n barod i helpu a gwrando’n fwy pan fydd angen hynny arno.

Gofynnwch iddo a oes unrhyw beth gallwch chi ei wneud i helpu neu unrhyw beth gall unrhyw un arall ei wneud i helpu.

Treuliwch amser gyda'ch gilydd yn meddwl am beth sy'n gwneud iddo deimlo fel hyn.  Trafodwch a oes unrhyw newidiadau allai fod wedi gwneud iddo deimlo fel hyn a meddwl am y pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

Rhowch wybod i'ch plentyn am y llinellau cymorth, y llinellau tecstio a'r gwasanaethau sgwrsio ar-lein sydd ar gael os bydd angen iddo siarad â rhywun y tu hwnt i'r teulu. Mae rhestr o'r rhain uchod yn yr Adran Plant a Phobl Ifanc.

Os ydych chi’n credu bod angen cymorth proffesiynol ar eich plentyn i deimlo'n well, gallwch chi siarad ag ysgol eich plentyn neu eich meddyg teulu. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'ch gilydd, gallwch chi drafod a oes angen atgyfeiriad at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), asesiad gan arbenigwr iechyd meddwl, neu atgyfeiriad at fath arall o gymorth. Gallwch chi siarad â'ch meddyg teulu, eich ysgol neu eich canolfan blant leol, a hynny gyda'ch plentyn neu hebddo.

Os bydd angen cymorth emosiynol ar eich plentyn i wneud synnwyr o'i deimladau, gallai elwa o weld cwnselydd neu therapydd. Mae’n bosib y byddwch chi’n gallu defnyddio hwn am ddim trwy eich meddyg teulu neu ysgol eich plentyn. Os ydy hyn yn opsiwn fforddiadwy, gallwch chi hefyd ystyried cynghorydd preifat i blant. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio gwasanaethau cwnsela, cysylltwch â'ch Tîm CAMHS lleol.

Mae dechrau sgwrs yn gallu bod yn anodd, yn enwedig os ydych chi'n poeni am eich plentyn a sut y gallai deimlo. Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n rhoi cyfle i'ch plentyn siarad os bydd am wneud hynny. Does dim ots pa bwnc mae'r sgwrs yn dechrau ag ef. Y peth pwysig yw'r cyfle mae hyn yn ei roi i'r ddau ohonoch chi i siarad am deimladau ac i roi cysur.

Dyma ambell ffordd o ddechrau sgwrs:

  • Sut wyt ti’n teimlo nawr?
  • Am beth wyt ti eisiau siarad?
  • Beth oedd y peth gorau a gwaethaf am dy ddiwrnod?
  • Pe baet ti’n gallu ailddechrau heddiw, beth fyddet ti'n ei wneud yn wahanol?
  • Beth wnest ti heddiw rwyt ti fwyaf balch ohono?

Wrth ddechrau sgwrs, mae llawer o rieni yn ei chael hi’n ddefnyddiol dewis pwnc llosg sy’n siŵr o danio diddordeb eu plentyn. Gall hyn fod yn gân newydd sy'n sôn am emosiynau, cylchgrawn gydag erthygl ddiddorol ynddo, ffilm y gwylioch chi gyda'ch gilydd yn ddiweddar, neu stori mewn rhaglen sebon neu deledu. Mae hyn yn rhoi llai o ffocws ar y plentyn, a bydd yn aml yn arwain at sgyrsiau naturiol am deimladau. Fel y soniwyd uchod, weithiau mae gwneud gweithgaredd llawn hwyl a sbri gyda'ch gilydd yn gallu helpu hefyd. Mae hyn yn creu amgylchedd hamddenol a chyfforddus i ddechrau'r sgwrs.

Byddwch gerllaw a gwrandewch

Mae'n bwysig holi eich plentyn yn rheolaidd ynglŷn â sut mae’n teimlo, er mwyn iddo allu dod i arfer â siarad am ei deimladau a gwybod bod rhywun gerllaw i wrando arno bob amser os bydd am siarad. Mae creu awyrgylch llawn hwyl a sbri’n gallu helpu gyda hyn. I rai rhieni, bydd eu plant yn gallu bod yn fwy agored ynglŷn â sut maen nhw’n teimlo yn ystod gweithgareddau. Gallai’r rhain gynnwys pobi, celf a chrefft, chwaraeon, gemau bwrdd, darllen straeon a siarad amdanyn nhw wedyn.

Y peth pwysig yw ceisio cymryd diddordeb yn eich plentyn a rhoi eich amser iddo heb fod unrhyw beth arall yn tynnu eich sylw. Bydd rhoi sylw i’w emosiynau a'i ymddygiad yn eich helpu i sylwi ar newidiadau pwysig a deall ei anghenion yn well.

Byddwch yn rhan o'i fywyd o hyd

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn magu hyder ac yn teimlo eu bod yn cael cymorth pan fydd rhiant yn ymdrechu i ddangos diddordeb yn eu bywyd a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Nid yn unig mae hyn yn eu helpu i werthfawrogi pwy ydyn nhw, ond hefyd mae’n ei gwneud hi'n haws i chi sylwi ar broblemau a rhoi cymorth iddyn nhw.

Anogwch ei ddiddordebau

Helpu eich plentyn i gadw'n egnïol, dysgu sgiliau newydd ac ymwneud â'u cymuned a'u ffrindiau yw rhai o'r ffyrdd gorau o wneud yn siŵr bod iechyd emosiynol eich plentyn yn parhau ar y trywydd iawn. Er ein bod ni’n treulio mwy o amser yn y cartref gyda'n gilydd, mae hyn yn gyfle gwych i siarad â'ch plentyn am ei ddiddordebau a'r pethau mae'n eu mwynhau. Yna, gallwch chi feddwl am ffyrdd i'w helpu o ran y diddordebau hynny. Yn aml iawn, does dim rhaid i'r pethau hyn fod yn gostus, ac yn aml iawn bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthych chi beth sydd ar gael am ddim ac am bris rhesymol yn eich ardal chi. Bydd syniadau da gydag ysgolion, colegau a'ch awdurdod lleol hefyd, neu efallai y byddan nhw’n gallu manteisio ar bethau fydd yn hybu diddordebau eich plentyn.

Ystyriwch beth maen nhw'n ei ddweud o ddifrif

Yn ei dro, mae gwrando ar eich plentyn a gwerthfawrogi beth mae’n ei ddweud, heb feirniadu ei deimladau, yn gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ac yn magu ei ffydd a'i hyder yn eich perthynas. Dydy hyn ddim bob amser yn hawdd. Weithiau pan fydd eich plentyn yn disgrifio sut mae'n teimlo, mae’n gallu bod yn anodd clywed neu hyd yn oed ei dderbyn, yn enwedig pan fyddwn ni’n clywed hyn am y tro cyntaf. Y peth pwysicaf yw peidio ag ymateb yn y foment na diystyru teimladau'r plentyn, ond gwrando'n bwyllog a dangos diddordeb ac awydd i helpu. Mae'n dda trafod pam y gallai eich plentyn fod yn teimlo fel y mae, ond cofiwch nad yw llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod pam, ond maen nhw’n gwybod sut maen nhw’n teimlo. Mae'n dda siarad am beth mae'n meddwl fydd yn helpu a beth rydych chi'n ei feddwl fydd yn helpu, yn ogystal â phethau gallwch chi roi cynnig arnyn nhw. Weithiau, mae cyn lleied â siarad am hyn a bod â chynllun ar waith yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Mae'n dda rhoi cymorth i'ch plentyn, ond ceisiwch adael iddo fe arwain o ran faint mae'n ei rannu. Mae’n anodd cydbwyso hyn, ond weithiau mae gofyn gormod o gwestiynau’n gallu gwneud i blentyn fod yn amharod i rannu, felly dilynwch arweiniad eich plentyn a chynnig cyfleoedd rheolaidd heb unrhyw bwysau.

Datblygwch arferion cadarnhaol

Dydy hi ddim yn hawdd creu trefn a strwythur ar yr adeg hon. Mae cyfnodau clo rheolaidd a gorfod hunan-ynysu’n gallu amharu ar ein trefn arferol. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil, mae’r rhan fwyaf o blant yn teimlo'n well pan fydd trefn gadarnhaol ar waith. Gall arferion a strwythurau hybu lles plentyn ac annog ymddygiadau cadarnhaol. Lle da i ddechrau yw ailgyflwyno trefn reolaidd yn y cartref o ran bwyta'n iach ac ymarfer corff. Mae noson dda o gwsg yn bwysig iawn hefyd – ceisiwch ailgyflwyno trefn sy'n cyd-fynd â'r ysgol neu'r coleg.

Gofalwch am eich iechyd meddwl eich hun

Mae magu plant neu ofalu am blentyn neu berson ifanc yn gallu bod yn anodd ar brydiau. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun, gan y bydd hyn yn eich helpu i roi cymorth i'r rheiny rydych chi'n gofalu amdanyn nhw.

Cam cyntaf pwysig yw adnabod a chydnabod pryd rydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd neu’n teimlo eich bod wedi eich gorlethu. Dydy cael trafferth gyda rhywbeth neu wynebu eich problemau iechyd meddwl eich hun ddim yn golygu eich bod chi’n rhiant neu'n ofalwr gwael.

Mae poeni a phryderu yn ystod cyfnod anodd yn hollol normal. Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n cydnabod hynny. Mae’n bosib eich bod yn teimlo'n flinedig, yn emosiynol ac yn bryderus, ac os bydd y teimladau hyn yn parhau, efallai ei bod hi’n bryd dechrau ystyried ffyrdd o edrych ar ôl eich iechyd meddwl eich hun yn well. Gallai hyn olygu cael cymorth proffesiynol. Isod, rydyn ni wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r Pum Ffordd at Les yn nodi'r camau syml gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch chi hefyd ddarllen awgrymiadau defnyddiol ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND, ac mae ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Yn ogystal â hynny, gallai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â ffrind, rhiant arall neu ofalwr rydych chi'n ymddiried ynddo ddigon i ddweud wrtho sut rydych chi'n teimlo. Mae’n bosib bod teulu, ffrindiau neu gydweithiwr gyda chi allai roi cymorth neu roi seibiant i chi. Mae digon o gymorth ar gael. Ddylech chi fyth teimlo fel bod rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Gweler ein cwestiynau cyffredin i oedolion ynglŷn ag iechyd meddwl am ragor o wybodaeth.

Mae rhyw un o bob wyth o blant a phobl ifanc yn wynebu problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer ohonyn nhw, bydd y rhain yn cael eu datrys gydag amser, ond bydd angen cymorth proffesiynol ar eraill.

Fel rhiant, mae’n gallu bod yn anodd iawn gwybod a oes rhywbeth yn peri gofid i'ch plentyn, neu p’un a ydy hyn yn newid o ran hwyliau neu'n arwydd o newid o ran hormonau/datblygu. Mae ffyrdd o sylwi pan fydd rhywbeth o'i le. Dyma ambell beth i gadw llygad allan amdano:

  • Newidiadau sylweddol o ran ymddygiad, sy’n groes i gymeriad eich plentyn.
  • Trafferth barhaus wrth gysgu a chyfnodau o flinder yn ystod y dydd.
  • Yr unigolyn yn mynd i’w gragen ac yn osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol.
  • Colli’r awydd i wneud y pethau mae’n hoff o’u gwneud fel arfer.
  • Hunan-niweidio: gall hyn gynnwys gwneud toriadau bach yn eu croen trwy grafu neu ddefnyddio rhywbeth miniog, tynnu gwallt, pwl ymosodol o bwnio a tharo ei hun.
  • Esgeuluso ei hun, colli’r awydd i gael bath neu ymolchi, brwsio dannedd neu newid dillad.
  • Newid mewn arferion bwyta, bod yn gyndyn i fwyta, cuddio bwyd neu orfwyta ac yna mynd yn sâl neu chwydu.
  • Mynegi teimladau o ofid a phryder yn rheolaidd, glynu wrth riant neu ofalwr, colli’r awydd i fynd i'r ysgol neu adael y cartref yn aml.

Y peth pwysicaf i'w gofio yw’r ffaith mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau. Os ydych chi'n poeni, ystyriwch a ydy ei ymddygiad wedi newid yn sylweddol, ac a ydy hynny wedi para am gyfnod estynedig. Gallai hyn fod yn y cartref, yn yr ysgol neu yn y coleg; gallai fod gydag eraill neu ar ei ben eu hun; neu gallai ymwneud â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn ei fywyd, gan gynnwys newidiadau yn sgil y pandemig.

Os ydych chi'n bryderus neu'n ansicr, mae llawer o gymorth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol. Mae www.dewis.cymru yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Gallwch chi hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'ch Canolfan i Blant leol. Dyma ragor o wefannau defnyddiol:

Gwefannau ac adnoddau defnyddiol ar gyfer eich plentyn:

 

Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc Hwb

Yma mae chwe rhestr chwarae i'ch cyfeirio chi at amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein, er mwyn eich helpu trwy'r cyfnod clo a’r tu hwnt. Ym mhob un o'r rhestri chwarae, mae gwefannau hunan-gymorth, apiau, llinellau cymorth, a mwy sy’n gallu helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch lles. I fynd at y rhestri chwarae, cliciwch yma.

 

CALM HARM: Ap ar gyfer dyfeisiau symudol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio. (Am ddim)

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk 0800 1111

HARMLESS: Cyngor a gwybodaeth ynglŷn â phobl ifanc allai hunan-niweidio neu brofi meddyliau o'r fath. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk 0808 802 5544

SELF HARM UK: Man ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau ynglŷn â phryderon sydd gyda phobl yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk 

RETHINK MENTAL ILLNESS: 0300 5000 927

Y RHWYDWAITH HUNAN-NIWEIDIO CENEDLAETHOL: Mae’r Rhwydwaith yn fforwm ar-lein sy'n eich galluogi i siarad â phobl eraill ar safle diogel sy’n cael ei reoleiddio. www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

NEGESYDD ARGYFYNGAU YOUNGMINDS: Tecstiwch YM i 85258 am gymorth am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

HEADSPACE: Ap meddwlgarwch gyda llawer o raglenni gwahanol i hybu iechyd meddwl.

SANE: Mae Saneline ar gael rhwng 4.30pm a 10.30pm bob dydd am gymorth iechyd meddwl. 0300 304 7000

WELLMIND: Cafodd yr ap hwn ei ddatblygu gan y GIG ac mae'n helpu gyda symptomau gorbryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o olrhain eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn ffordd wych o fonitro meddyliau ac emosiynau anodd, pryd byddwch chi'n eu cael nhw a ble.

THE STRESS AND ANXIETY COMPANION: Mae'r ap hwn yn eich annog i feddwl yn gadarnhaol drwy ei fodd symlach o ddarparu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), ac mae’n eich helpu i ddeall y pethau sy’n sbarduno eich teimladau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu eich meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd MEIC yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall. Fyddwn ni ddim yn eich beirniadu a byddwn ni’n helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth sydd ei angen arnoch i greu newid. www.meiccymru.org/

MINDwww.mind.org.uk/

 

Dilynwch ni: