Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Adsefydlu Covid Hir

Rydyn ni’n dîm therapi, sydd wedi'i greu er mwyn darparu adsefydlu. Rydyn ni’n canolbwyntio ar roi'r offer i chi ddeall a rheoli'ch symptomau yn eich bywyd bob dydd.

Mae’r tîm yn cynnwys:

  • Ffisiotherapi
  • Therapi galwedigaethol
  • Therapi iaith a lleferydd
  • Seicoleg
  • Cefnogaeth gan Feddyg Teulu sydd â diddordeb arbennig mewn COVID Hir

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi i reoli'ch cyflwr mewn ffordd gynyddol i'ch cael chi'n ôl yn raddol at y pethau rydych chi angen ac yn hoffi eu gwneud. Rydyn ni’n darparu ymgynghoriadau ffôn yn bennaf, ond gallwn wneud apwyntiadau wyneb yn wyneb lle bo angen.

Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â gwasanaethau eraill BIP Cwm Taf Morgannwg a gwasanaethau allanol yn ogystal â grwpiau y gallwn ni eich cyfeirio atyn nhw a fydd yn helpu eich adferiad.

Mae COVID Hir yn enw byrrach a ddefnyddir ar gyfer 'Syndrom Ôl-COVID-19', a ddiffinnir gan NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol) fel:

“…arwyddion a symptomau sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy’n gyson â COVID-19, sy’n parhau am fwy na 12 wythnos ac nad ydynt yn cael eu hesbonio gan ddiagnosis amgen.”

Mae'r symptomau'n amrywio ar gyfer pob unigolyn, a gallan nhw fod yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Y symptomau cyffredin yw blinder, diffyg anadl, poen a 'meddwl pŵl'. Mae adferiad yn wahanol i bawb ac mae’n bwysig deall nad yw adferiad arafach (neu COVID Hir) yn cael ei gyfyngu i rai sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda COVID yn unig.

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi gael cymorth a chyngor ynglŷn â’ch adferiad, mae’r Gwasanaeth Adsefydlu COVID Hir yma i helpu.

Os oes gennych bryderon am eich symptomau a’ch adferiad o haint COVID, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch Meddyg Teulu, Ymgynghorydd neu Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (e.e. nyrs, ymarferydd nyrsio, therapydd) er mwyn iddyn nhw ystyried a allai fod gennych chi COVID Hir. Byddan nhw eisiau diystyru rhesymau eraill am eich symptomau y gellir eu trin, cyn eich cyfeirio atom ni.

Dilynwch ni: