Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Profi PCR

13/10/21
Beth yw profion PCR?

Un o'r ddau fath mwyaf cyffredin o brawf COVID-19 yw prawf PCR (adwaith cadwynol polymerasau). Mae'n fwy cywir na phrawf llif unffordd, ond mae'r canlyniadau'n cymryd mwy o amser i ddod yn ôl gan fod rhaid eu dadansoddi nhw mewn labordy.

13/10/21
Pryd mae angen prawf PCR arna i?

Os oes symptomau COVID-19 gyda chi, bydd angen i chi gael prawf PCR. Dylech chi gael prawf PCR hefyd os ydych chi wedi dod i gysylltiad â rhywun gyda COVID-19, os bydd olrheiniwr cysylltiadau wedi gofyn i chi gael prawf, neu os bydd canlyniad eich prawf llif unffordd yn bositif.

13/10/21
Sut mae gwneud prawf PCR?

Fel profion llif unffordd, mae profion PCR yn cynnwys swabio y tu mewn i'r trwyn a chefn y gwddf â ffon gotwm hir. Yna, bydd sampl yn cael ei hanfon i labordy er mwyn chwilio am god genetig COVID-19.

13/10/21
Beth fydd yn digwydd os bydda i'n cael canlyniad positif?

Os byddwch chi'n cael canlyniad positif, bydd angen i chi ynysu am 10 diwrnod. Dylech chi roi gwybod i unrhyw un rydych chi wedi dod i gysylltiad agos â nhw, fel bod modd iddyn nhw gael prawf PCR hefyd.

13/10/21
Pryd bydda i'n cael fy nghanlyniadau?

Gall y canlyniadau gymryd hyd at 72 awr i ddod yn ôl, ond bydd y mwyafrif yn dod yn ôl yn gyflymach na hynny. Mae angen dadansoddi profion yn unigol mewn labordy, felly bydd y canlyniadau'n cymryd mwy o amser pan fydd nifer yr achosion yn uchel a phan fydd llawer o bobl yn cael prawf.

13/10/21
Sut mae holi ynglŷn â chanlyniad coll?

Os byddwch chi’n dal i aros am eich canlyniadau 72 awr ar ôl eich prawf, mae dau opsiwn gyda chi yn dibynnu ar b’un a gawsoch chi god bar ai peidio:

  1. Os CAWSOCH chi god bar, gallwch chi ffonio 119. Gallan nhw olrhain eich prawf gan ddefnyddio'r cod bar.
  2. Os NA CHAWSOCH chi god bar, gallwch chi e-bostio CTM.Covid.Queries@wales.nhs.uk. Rhowch eich manylion iddyn nhw a byddan nhw’n gau olrhain eich prawf fel hynny.

Peidiwch â holi ynglŷn â’ch canlyniadau o fewn 72 awr ers eich prawf.

Dilynwch ni: