Prawf llif unffordd (enw arall ar hyn yw LFT neu LFD) yw un o'r ddau fath mwyaf cyffredin o brawf ar gyfer COVID-19. Mae'n gyflymach na phrawf PCR ac mae modd ei wneud yn y cartref, ond mae’r prawf hwn ychydig yn llai dibynadwy na phrawf PCR. Dyna pam y dylech chi drefnu prawf PCR er mwyn cadarnhau eich canlyniad os bydd canlyniad eich prawf llif unffordd yn bositif.
Bydd profion llif unffordd yn cael eu defnyddio pan does dim symptomau gyda chi, ac felly mae modd eu defnyddio nhw'n aml. Dylech chi gael prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos. Mae’n bosib hefyd y bydd gofyn i chi gael prawf llif unffordd yn rhan o drefniadau teithio, neu'n rheolaidd os ydych chi wedi dod i gysylltiad yn ddiweddar â rhywun gyda COVID-19.
Ddylech chi ddim defnyddio profion llif unffordd os oes symptomau gyda chi. Yn hytrach, dylech chi fynd i gael prawf PCR a hunan-ynysu nes i'r canlyniadau ddod yn ôl.
Fel profion PCR, mae profion llif unffordd yn cynnwys swabio y tu mewn i'r trwyn a chefn y gwddf â ffon gotwm hir. Mae'r pecyn yn gweithio fel prawf beichiogrwydd ac mae’n canfod proteinau sy'n bresennol yn unig ymysg pobl gyda COVID-19.
Os byddwch chi'n cael canlyniad positif, bydd angen i chi ynysu a chael prawf PCR o fewn 24 awr i gadarnhau'r canlyniad. Os na fyddwch chi’n cael prawf PCR o fewn 24 awr, byddwn ni’n cymryd bod canlyniad y prawf llif unffordd yn gywir a bydd rhaid i chi barhau i ynysu am 10 diwrnod.
Dylech chi gofnodi canlyniad pob prawf llif unffordd rydych chi’n ei gael, boed y canlyniad yn bositif neu’n negatif. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn rhoi darlun cliriach i dimau iechyd y cyhoedd o ran ble mae COVID-19 yn lledaenu ac yn helpu i reoli gwasanaethau’n briodol. Yn ogystal â hynny, mae’n profi eich bod chi wedi bod yn cymryd y profion. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os bydd angen i chi brofi hynny ar gyfer y gwaith, yr ysgol, neu os ydych chi wedi dod i gysylltiad â rhywun gyda COVID-19.
Y ffordd hawsaf o gofrestru eich canlyniadau yw ar-lein drwy glicio yma. Gallwch chi greu cyfrif hefyd er mwyn cyflymu'r broses. Os na fyddwch chi’n gallu cofnodi eich canlyniadau ar-lein, gallwch chi wneud hynny hefyd drwy ffonio 119.