Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: PROFION A HUNAN-YNYSU

Mae'r dudalen hon yn cyfleu'r rheolau a'r cyngor swyddogol diweddaraf ar 1 Ebrill 2022.

Os oes symptomau COVID-19 gyda chi, mae'n bwysig cymryd prawf llif unffordd (LFT) cyn gynted â phosib. Os byddwch chi’n cael prawf positif, dylech chi hunan-ynysu am bum diwrnod.

Ar bumed a chweched diwrnod eich cyfnod o hunan-ynysu, dylech chi gymryd prawf llif unffordd. Os bydd y naill neu'r llall o'r profion hyn yn bositif, dylech chi barhau i hunan-ynysu nes y byddwch chi’n cael prawf negatif am ddau ddiwrnod yn olynol neu nes bod deg diwrnod wedi mynd heibio (pa un bynnag fydd yn gyntaf).

Sylwch, yn ôl y gyfraith, does dim rhaid i chi hunan-ynysu mwyach os bydd symptomau gyda chi neu os byddwch chi’n cael prawf positif am COVID-19. Fodd bynnag, rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i hunan-ynysu os oes COVID-19 gyda chi er mwyn diogelu’r bobl o’ch cwmpas ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

Dydy profion PCR ddim ar gael i'r cyhoedd mwyach. Yn lle hynny, dylech chi ddefnyddio prawf llif unffordd. Gallwch chi archebu profion yma:

Os oes angen cymorth ariannol arnoch gan eich bod chi’n hunan-ynysu, mae’n bosib y gall y Cynllun Cymorth Hunan-ynysu eich helpu. Cewch wybod a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais trwy glicio yma.

Cwestiynau cyffredin

 
Dilynwch ni: