Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer blwyddyn adrodd 2021/2022. Mae’r adroddiad yn amlygu sut rydym wedi gweithio i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg dros y cyfnod adrodd diwethaf a’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y 12 mis nesaf i wella ein darpariaeth ddwyieithog ar gyfer ein cleifion a’n cymunedau. Fe’i cyhoeddir yn unol â Safon 120 o Safonau’r Gymraeg.

Yn ei ragair i'r adroddiad, ysgrifennodd Paul Mears ein Prif Weithredwr:

“Mae eleni, unwaith eto, wedi gweld ymrwymiad clir ein staff i ddarparu gofal o safon i’n defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg eu hiaith, sydd i lawer yn golygu gofal yn Gymraeg wrth i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar adeiladu cymunedau iach gyda’n gilydd.

“Mae’r sylwadau gan ein clinigwyr ar effaith gwasanaethau Cymraeg ar foddhad cleifion a chanlyniadau gofal, a gan bedwar o’n 55 aelod o staff sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg eleni, yn dyst i bwysigrwydd gofal yn Gymraeg a’r safonau o gwmpas. mae cyfathrebu â chleifion wedi gwreiddio yn ein Bwrdd Iechyd.”

Ychwanegodd Paul: “Rwy’n edrych ymlaen dros y flwyddyn nesaf at gefnogi’r sefydliad i sicrhau gwelliant parhaus yn y ddarpariaeth o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf gyda chefnogaeth gwasanaethau Cymraeg o safon.”

Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am yr adroddiad neu ein darpariaeth gwasanaeth dwyieithog, mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg drwy e-bostio CTT_WelshLanguage@wales.nhs.uk